Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

(CLA(4)-05-11)

 

CLA32

 

Adroddiad Drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl: Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Diwedd y Cyfnod Sylfaen a Dirymu Trefniadau Asesu’r Cyfnod Allweddol Cyntaf) (Cymru) 2011

 

Gweithdrefn:  Negyddol

 

O dan adran 108(2)(b)(iii) o Ddeddf Addysg 2002, caiff Gweinidogion Cymru bennu drwy orchymyn unrhyw drefniadau asesu sydd, yn eu barn hwy, yn briodol i’r cyfnod sylfaen. Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu y caiff disgyblion eu hasesu yn y flwyddyn olaf o’r cyfnod sylfaen gan athro neu athrawes, ac mae’n nodi diben yr asesiadau hynny.

 

Materion technegol: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i’w hadrodd o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

Rhinweddau: craffu

 

Gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig o dan Reol Sefydlog 21.3(ii) mewn perthynas â’r offeryn hwn - (ii) ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

 

Mae erthygl 5 yn cynnwys y ddarpariaeth anarferol a ganlyn –

“Caiff Gweinidogion Cymru wneud y darpariaethau hynny y mae’n ymddangos yn hwylus iddynt eu gwneud ac sy’n rhoi effaith lawn i’r darpariaethau a wneir o dan y Gorchymyn hwn (ac eithrio darpariaethau sy’n rhoi neu’n gosod swyddogaethau fel a grybwyllir yn adran 108(6) o Ddeddf Addysg 2002) neu sy’n ychwanegu atynt mewn ffordd arall.”

 

Y pŵer galluogi yw adran 108(11) o Ddeddf Addysg 2002, sydd fel a ganlyn –

 

“An order under subsection (2)(b)(iii) or (3)(c) may authorise the making of such provisions giving full effect to or otherwise supplementing the provisions made by the order (other than provision conferring or imposing functions as mentioned in subsection (6) or (7)) as appear to the Welsh Ministers to be expedient; and any provisions made under such an order shall, on being published as specified in the order, have effect for the purposes of this Part as if made by the order.”

 

Felly, bydd Gweinidogion Cymru yn gallu gwneud darpariaethau pellach i roi effaith lawn i ddarpariaethau’r Gorchymyn presennol neu i ychwanegu atynt heb orfod gwneud gorchymyn diwygio y byddai’n rhaid i’r Cynulliad graffu arno. Fodd bynnag, mae’n bŵer sydd wedi’i ddefnyddio gan y Cynulliad ar nifer o achlysuron (rhoddwyd y pŵer i’r Cynulliad yn wreiddiol) a chan Weinidogion Cymru (trosglwyddwyd y pŵer iddynt yn sgil Deddf Llywodraeth Cymru 2006).

 

Nid yw hyn yn ddefnydd anarferol neu annisgwyl o’r pŵer yn adran 108(11), yr adroddid arno o dan Reol Sefydlog 21.2(ii), ond mae’r pŵer ei hun yn anarferol, ac felly mae’n un o bwys.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Awst 2011